Darperir y cyfleuster hwn gan Awdurdodau Lleol Cymru i lywodraethwyr a chlercod ysgolion yng Nghymru i gael gwybodaeth a manylion a fyddai’n anodd iddynt gael mynediad atynt fel arall gan na allant fod yn bresennol mewn sesiynau hyfforddi a datblygu a drefnwyd. Mae rheoliadau hyfforddiant gorfodol (gweler y nodyn isod) a ddaeth i rym ar 20th Medi 2013 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol i lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru dderbyn hyfforddiant rhagnodedig penodol.

Nid bwriad y wybodaeth a ddarperir yma yw cymryd lle'r hyfforddiant wyneb-yn-wyneb a drefnwyd gan Awdurdodau Lleol neu Gonsortia neu yn yr ysgol, ond gellir ei defnyddio i ychwanegu at hyn ac mae'n rhoi’r cyfle i lywodraethwyr a chlercod ymgymryd â hyfforddiant os nad ydynt yn gallu mynd i sesiynau a drefnwyd. Dylai llywodraethwyr a chlercod wneud pob ymdrech i fod yn bresennol ar gyfer hyfforddiant a drefnwyd er mwyn manteisio ar y cyfleoedd rhwydweithio mae hyn yn cynnig, i ofyn cwestiynau a rhannu eu gwybodaeth a'u profiad gydag eraill.

I gael mynediad at gyrsiau cysylltwch â Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr eich Awdurdod Lleol i gael enw defnyddiwr a chyfrinair. Bob tro y byddwch yn mynd i'r safle ar ôl hynny, bydd eich gwaith yn cael ei gofnodi ac ar ôl ei gwblhau bydd tystysgrif yn cael ei chyhoeddi yn eich enw fel prawf o hynny.


Disgrifir rheoliadau hyfforddi gorfodol yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddiant i Lywodraethwyr) (Cymru) 2013.

Rhaid atal llywodraethwyr ysgolion sy'n methu derbyn yr hyfforddiant statudol o fewn yr amser a ragnodwyd rhag eu holl ddyletswyddau ar y corff llywodraethu nes iddynt gwblhau’r hyfforddiant. Bydd methiant i gwblhau hyfforddiant statudol o fewn chwe mis o gael eu hatal yn arwain at waharddiad awtomatig fel llywodraethwr unrhyw ysgol yng Nghymru. Rhaid diswyddo Cadeiryddion a Chlercod sy’n methu â derbyn hyfforddiant priodol o fewn yr amser a ragnodwyd.